Job Description
Mae hon yn rôl arweinyddiaeth strategol sy'n gofyn am arbenigedd technegol dwfn ym maes rheoli seiberddiogelwch gweithredol, a dealltwriaeth glir o sut i gymhwyso hyn ar draws sefydliad cymhleth, aml-safle.
Mae'n rôl ddeinamig ac uchel ei heffaith lle byddwch yn darparu cyngor arbenigol i Aelodau o'r Senedd a staff y Comisiwn ynghylch gofynion diogelwch technegol sy'n helpu i lywio a chyflawni strategaeth TGCh y Senedd.
Bydd eich gwaith yn cefnogi uniondeb ein prosesau democrataidd yn uniongyrchol drwy sicrhau cydymffurfiaeth a llywodraethiant cadarn ar draws y sefydliad.
Byddwch yn arwain ar ddylunio a chyflwyno pensaernïaeth dechnegol sy'n rheoli ac yn lliniaru ein risg seiberddiogelwch. Drwy hyn, byddwch yn sicrhau ein bod yn bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol cysylltiedig a chyfrifoldebau rheoleiddio, ac yn darparu amgylchedd cydymffurfiol a all barhau i es evolve’n unol â gofynion y Senedd.
Gan gydweithio'n agos ag Aelodau o'r Senedd, ymgynghorwyr...
Apply for this Position
Ready to join Senedd? Click the button below to submit your application.
Submit Application